Adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu’ch trwydded dros dro neu gerdyn-llun os ydych rhwng 26 a 69 oed.
Adnewyddwch eich trwydded yrru ar-lein os ydych chi’n 70 neu drosodd
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu’ch trwydded os ydych chi’n 70 neu drosodd, neu y byddwch chi’n 70 yn y 3 mis nesaf.
Pam ddylwn i adnewyddu fy nhrwydded ar-lein?
Mae’n rhaid ichi adnewyddu’ch trwydded yrru pob 10 mlynedd. Os ydych chi’n 70 neu drosodd, mae’n rhaid ichi adnewyddu’ch trwydded pob 3 blynedd.
Mae’n gwasanaeth ar-lein wedi cael ei ddylunio i’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. Mae’n cymryd ychydig funudau yn unig i’w chwblhau.
Gallwch gyrchu ein gwasanaeth ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar GOV.UK. Ond nid dyna’r cwbl:
Mae’n hawdd
Mewn arolwg diweddar, dywedodd 93% o gwsmeriaid fod ein gwasanaethau ar-lein yn hawdd i’w defnyddio.

Mae’n gyflym
Os ydych yn adnewyddu ar-lein gan ddefnyddio GOV.UK, dylai’ch trwydded gyrraedd o fewn un wythnos.

Mae’n ddiogel ar GOV.UK
Defnyddiwch GOV.UK bob amser i adnewyddu ar-lein. Gallwch fod yn siŵr fod eich manylion yn ddiogel ac yn sicr.

Mae’n rhatach na’r post Adnewyddu ar-lein ar GOV.UK yw’r ffordd rataf o adnewyddu trwydded yrru cerdyn-llun. Felly osgowch wefannau trydydd parti sy’n gallu codi premiwm.
Mae’n rhad ac am ddim os ydych dros 70 Mae’n rhad ac am ddim i adnewyddu’ch trwydded os ydych yn 70 neu drosodd. Byddwch yn ymwybodol o wefannau trydydd parti sy’n codi ffioedd arnoch – defnyddiwch GOV.UK bob tro.
3 rheswm pennaf i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein
Cael gwybod rhagor am y 3 rheswm pennaf i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein.

Sut ydw i’n adnewyddu fy nhrwydded ar-lein?
Gallwch adnewyddu’ch trwydded ar-lein mewn ychydig o gamau syml – darllenwch ein postiadau blog neu gwyliwch ein fideos isod i gael gwybod sut.
Sut i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein
Os oes angen ichi adnewyddu’ch trwydded yrru, dyma sut i’w wneud ar-lein.

Sut i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein os ydych chi’n 70 neu drosodd
Os ydych chi’n 70 neu drosodd a bod angen ichi adnewyddu’ch trwydded yrru, dyma sut i’w wneud ar-lein.

Gwyliwch: Sut i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein
Defnyddiais i’r gwasanaeth ar-lein a’i gael yn hawdd iawn, byddaf i’n ei ddefnyddio eto’n bendant yn y dyfodol.
Lloyd, y DU
Gwyliwch: Sut i adnewyddu’ch trwydded yrru ar-lein os ydych chi’n 70 neu drosodd
Rwyf wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn ers i mi fod yn 70. Nid wyf wedi cael problemau erioed. Gobeithio ei ddefnyddio am lawer rhagor o flynyddoedd.
Clive, y DU