Sut i adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein: trawsgrifiad fideo

Ydyw’n amser ichi adnewyddu eich trwydded? Mae ein gwasanaeth ar-lein yn hawdd, yn gyflym ac yn ddiogel.

Defnyddiwch GOV.UK yn unig, gan mai dyma wefan swyddogol DVLA.

Darllenwch y wybodaeth ar y dudalen hon. Ar ôl ichi gael popeth sydd ei angen arnoch, cliciwch ar ‘Dechrau nawr’.

Byddwn yn eich tywys drwy’r gwasanaeth, gam wrth gam. Darllenwch y wybodaeth ar bob tudalen. Unwaith rydych chi’n hapus i barhau, cliciwch ar ‘Nesaf’.

Llenwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn adrannau 1 i 4, gan gynnwys manylion talu, i gyflwyno’ch cais.

Cewch e-bost i gadarnhau ar ôl i’ch cais cael ei gyflwyno. Dylech dderbyn eich trwydded newydd o fewn wythnos o wneud cais ar-lein.

Hawdd. Cyflym. Diogel.